Cefndir
Stonewall Cymru yw’r elusen Cymru gyfan dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT). Sefydlwyd Stonewall Cymru yn 2003, ac rydyn ni’n gweithio â busnesau, sefydliadau cyhoeddus, ysgolion, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ystod eang o bartneriaid mewn cymunedau ar draws Cymru i wella profiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.
Trosolwg
i. Mae Stonewall Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar flaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
ii. Cyn etholiadau y Pumed Cynulliad, cyhoeddasom Maniffesto Stonewall Cymru 2016: Cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru[1]. Mae’r maniffesto yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb ar draws meysydd allweddol megis iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, a chydraddoldeb LHDT yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Seiliwyd yr argymhellion ar ein profiad o weithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru ac arolwg o flaenoriaethau ein cefnogwyr ar gyfer cydraddoldeb LHDT.
iii. Credwn fod awgrymiadau’r Pwyllgor am ei raglen waith yn cynnwys nifer o syniadau da ac yn mynd i’r afael â nifer o faterion o bwys, ond rydym yn argymell y dylai’r Pwyllgor ystyried cynnal rhagor o waith fyddai’n ymdrin â materion yn ymwneud â chydraddoldeb yn benodol.
iv. Amlinellwn rhai syniadau ychwanegol am flaenoriaethau isod sy’n gysylltiedig â materion LHDT, ond byddwn yn cynghori’r Pwyllgor i ystyried syniadau am waith yn ymwwneud â’r nodweddion gwarchodedig eraill hefyd, gan weithio â rhanddeiliad allweddol ar draws maes cydraddoldebau yng Nghymru.
Rhaglen waith y Pwyllgor
v. Cydraddoldeb i bobl draws yng Nghymru
Mae pobl draws yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldebau sylweddol ar draws gwahanol feysydd, gan gynnwys mynediad at ofal iechyd, addysg, y gweithle, trosedd casineb a iechyd meddwl. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Cynllun gweithredu i wella cydraddoldeb ar gyfer pobl drawsryweddol’[2]. Gall y pwyllgor archwilio cynnydd ar amcanion y cynllun gweithredu, unrhyw fylchau yn y cynllun a sut y gall y Llywodraeth ac asiantaethau eraill wella eu gwaith i sicrhau cydraddoldeb i bobl draws yng Nghymru.
vi. Troseddau casineb yng Nghymru
Mae’r misoedd diwethaf wedi gweld cynnydd mawr yn adroddiadau o droseddau casineb Nghymru a Lloegr. Gall y Pwyllgor ystyried y rhesymau am y cynnydd hwn, ac i ba raddau mae ymdrechion amlasiantaethol wedi llwyddo i fynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru. Byddai ymchwiliad o’r fath hefyd yn gyfle i glywed gan ystod eang o gymunedau a rhanddeiliaid am sut mae cryfhau cydlyniant cymunedol ymhob rhan o’r wlad.
vii. Diogelu hawliau yng Nghymru
Os ydy cynlluniau Llywodraeth Prydain i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol (1998) yn mynd yn eu blaenau, gallai’r pwyllgor archwilio’r sgil effeithiau i Gymru, yn enwedig yng nghyd-destun cyfansoddiadol y setliad datganoli, ac ystyried sut gall y Cynulliad a Llywodraeth Cymru sicrhau parhad fframwaith hawliau dynol gadarn i Gymru ar gyfer y dyfodol.
Gwybodaeth bellach
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Mabli Jones
Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil
Stonewall Cymru
02920 347 002